Ffrindiau yr AFG
Fe sefydlwyd 'Ffrindiau'r AFG' ym 1991; mae'r amcanion yn ein cyfansoddiad yn nodi ein bod i "hyrwyddo, cefnogi a chynorthwyo'r AFG a'i gweithgareddau diwyllianol ac addysgiadol".
Mae'r Ffrindiau'n codi arian trwy ffi aelodaeth a thrwy amrywiaeth o ddigwyddiadau. Dros y blynyddoedd, mae'r arian a godwyd wedi cynorthwyo tuag at rhaglen addysg yr Oriel, yr Wyl Gelf flynyddol; hefyd tuag at ddarpariaeth offer TG, ac yn fwyaf diweddar tuag at gostausystem aerdymherwr newydd. Pan yn angenrheidiol, mae'r Ffrindiau'n gweithredu fel stiwardiaid yn ystod ambell arddangosfa.
Pob blwyddyn, mae rhaglen ddigwyddiadau'r Ffrindiau'n cynnig sgyrsiau, arddangosiadau, ymweliadau i orielau a stiwdios artistiaid, sesiynau barddonol, ac yn ddiweddar, achlysuron cerddorol. Mae Aelodaeth y Ffrindiau'n ein galluogi i wneud y mwyaf o'n cariad at gelf yn ei holl amrywiaeth, tra'n cyflawni ein amcanion o gefnogaeth i'r AFG a'i Horiel.
Mae lawns 'celf125' yn 2007, cylchgrawn yr AFG, wedi golygu bo'r Ffrindiau nawr yn derbyn 2 gylchlythyr swmpus y flwyddyn; mae'r clychgrawn yn cael ei yrru am ddim i'r hol aelodau.
Mae gwefan newydd sbon yr AFG yn ddatblygiad cyffrous arall - gall Ffrindiau weld holl wybodaeth yr oriel a manylion am ddigwyddiadau'r Ffrindiau, a gweld detholiad o ddelweddau o'r arddangosfa sydd ymlaen ar y pryd ar-lein.